Mae Llafur wedi addo achub trwyddedau teledu i bobol dros 75 oed pe bai’r blaid yn ennill yr rtholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Mae’r BBC a’r Llywodraeth wedi cael eu beirniadu am eu bwriad i dynnu’n ôl drwydfedau am ddim.

Dywed dirprwy arweinydd y blaid Lafur, Tom Watson, eu bod am atal y toriad gwnnw os yw’r blaid yn ennill mwyafrif.

“Mae penderfyniad y Torïaid i dorri trwyddedau teledu am ddim i bobol dros 75 oed yn hollol ddi-gydwybod,” mefdai.

“Mae’n warthus ac mae ein neges yn glir – pleidleisiwch dros Lafur er mwyn achub trwyddedau teledu am ddim.”