Mae dau grŵp blaenllaw o ddoctoriaid wedi pledio gyda gwleidyddion i beidio defnyddio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn ennill pleidleisiau yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Dywed Yr Academi Colegau Meddygol a’r NHS Providers na ddylai’r Ceidwadwyr na’r Blaid Lafur ddefnyddio’r NHS i ennill pleidleisiau drwy wneud addewidion na fedran nhw eu delifro.

Yn ôl pennaeth Yr Academi Colegau Meddygol, Carrie MacEwan, gwaith y Gwasanaeth Iechyd yw i “reoli iechyd y wlad, nid cael ei ddefnyddio i ennill pleidleisiau”.

“Mae’r ddwy brif blaid yn dweud eu bod eisiau treulio’r etholiad yn siarad am y Gwasanaeth Iechyd,” meddai.

“Nid yn unig yw’r NHS yn llai ymrannol ac yn haws i’w esbonio na Brexit, ar yr achlysur yma, mae’n fater mae’r ddwy brif blaid yn meddwl y gallant ei ennill.”