Mae Jeremy Corbyn yn dweud ei fod yn “ddrwgdybus iawn” o gynlluniau iechyd Boris Johnson a’r Ceidwadwyr.

Fe fu arweinydd y Blaid Lafur yn Swindon heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 2), wrth iddo fynegi pryder am effaith perthynas Prydain a’r Unol Daleithiau ar wasanaethau cyhoeddus.

Mae Llafur yn dweud y bydd yn gwarchod rhag cynlluniau honedig i werthu rhannau o’r Gwasanaeth Iechyd i gorfforaethau yn yr Unol Daleithiau fel rhan o gytundeb masnach gyda’r Arlywydd Donald Trump.

“Dw i’n poeni mwy o lawer am berthynas y Blaid Dorïaidd gyda llywodraeth yr Unol Daleithiau a’r Unol Daleithiau a’i effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus [na beirniadaeth gan Donald Trump],” meddai.

“A’r cytundeb mae’n ymddangos maen nhw’n barod i’w gwneud gyda chwmnïau fferyllol yr Unol Daleithiau ar gyfer ein Gwasanaeth Iechyd.

“Dw i eisiau i’r Gwasanaeth Iechyd fod yn eiddo i ni, wedi’i berchen a’i redeg gan y cyhoedd.”

Mae Donald Trump yn wfftio’r pryderon yn gyson, ond mae Jeremy Corbyn yn dweud ei fod e’n “ddrwgdybus iawn, iawn”.

Dydy Boris Johnson ddim wedi dweud yn agored na fyddai’n barod i breifateiddio rhannau o’r gwasanaeth iechyd, er ei fod yn dweud y dylai gwasanaethau fod yn rhad ac am ddim i gychwyn.