Mae llywodraeth Fietnam wedi mynegi eu cydymdeimlad yn dilyn “trasiedi ddyngarol ddifrifol”, ar ôl i 39 o gyrff gael eu canfod yng nghefn lori yn Essex.

Cafwyd hyd i gyrff 31 o ddynion ac wyth o fenywod mewn oergell ar gefn lori yn Grays ar Hydref 23.

Dywed Heddlu Essex eu bod nhw bellach yn gwybod o ba wlad roedden nhw’n dod, ac maen nhw wedi adnabod nifer o unigolion er nad yw eu henwau wedi’u cyhoeddi.

Mae disgwyl iddyn nhw dderbyn rhagor o dystiolaeth cyn trosglwyddo ffeiliau i’r crwner.

Dywed llywodraeth Fietnam eu bod nhw’n cydweithio’n agos ag awdurdodau gwledydd Prydain i gefnogi’r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid.

Cyhuddiadau

Mae ymdrechion ar y gweill i estraddodi Eamonn Harrison o Iwerddon.

Mae wedi’i gyhuddo o 39 achos o ddynladdiad, masnachu pobol a throseddau mewnfudo, ac wedi’i gadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio ar Ronan Hughes, 40, a’i frawd Christopher, 34, i fynd atyn nhw gyda gwybodaeth, gan eu bod nhw hefyd dan amheuaeth o ddynladdiad a masnachu pobol.

Mae Mo Robinson, gyrrwr y lori, wedi’i gyhuddo o 39 achos o ddynladdiad, cynllwynio i fasnachu pobol, cynllwynio i fewnfudo’n anghyfreithlon a gwyngalchu arian.

Mae dau ddyn, 38 a 46 oed, a dynes 38 oed ar fechnïaeth.

Mae lle i gredu bod dau o bobol wedi cael eu harestio yn Fietnam ar amheuaeth o fasnachu pobol.