Y farchnad dai yn arafu oherwydd ansicrwydd Brexit

 

Llun: CC0

Mae’r amser y mae’n ei gymryd i werthu eiddo yn ninasoedd gwledydd Prydain wedi estyn, wrth i ansicrwydd Brexit barhau i dagu’r farchnad dai.

Mae bellach yn cymryd gwerthwyr fwy na 12 wythnos ar gyfartaledd i werthu eiddo ledled gwledydd Prydain, o’i gymharu ag wyth wythnos yn 2016, yn ôl data newydd gan Zoopla.

Mae Zoopla UK Cities House Price Index wedi tynnu sylw at y ffaith bod ansicrwydd economaidd wedi pwyso a mesur yn benodol ar farchnad dai Llundain. 

Erbyn hyn mae eiddo preswyl yn y ddinas yn cymryd mwy na mis yn hwy i’w werthu na thair blynedd yn ôl, gan fod y broses werthu ar gyfartaledd yn cymryd tua 14.5 wythnos.

Datgelodd yr adroddiad misol hefyd fod gwerthwyr ledled gwledydd Prydain yn derbyn cynigion gan brynwyr sydd ar gyfartaledd o 3.8% neu £9,800 yn is na’r pris gofyn cychwynnol.

Mae teimlad negyddol yn golygu bod gwerthwyr fel arfer yn derbyn bidiau 5.7% yn is na’r pris gofyn yn Llundain.

Yr Alban sy’n parhau i fod â’r farchnad dai gryfaf, gydag eiddo yn Glasgow a Chaeredin yn cael ei gipio o fewn pump i chwe wythnos ar gyfartaledd.

Dyma’r unig ddinasoedd yng ngwledydd Prydain lle mae’r galw wedi bod mor gadarnhaol nes bod cynigwyr mewn gwirionedd yn gwario cryn dipyn yn uwch na’r pris gofyn nodweddiadol, gyda gwerthiant mwy na 6% yn uwch na’r pris targed, ar gyfartaledd.

Arian a Busnes

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones