Mae’r mwyafrif o bleidleiswyr yn gwrthwynebu cytundebau etholiadol rhwng pleidiau ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf, yn ôl arolwg newydd.

Dim ond 31% o’r bobol a gafodd eu holi gan y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol sy’n dweud y dylai un blaid gamu o’r neilltu i helpu plaid arall mewn rhai seddau.

Mae 44% o’r bobol wnaeth ymateb yn dweud y dylai pob plaid sefyll ym mhob sedd, hyd yn oed os yw hynny’n golygu ei bod yn llai tebygol y bydd aelod seneddol yn cael ei ethol sy’n rhannu eu daliadau gwleidyddol.

25% o bobol sy’n dweud nad ydyn nhw’n sicr a yw cytundebau etholiadol yn syniad da neu beidio, o’i gymharu â 31% ym mis Awst.

Mae cefnogwyr y Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn erbyn cytundebau etholiadol ar Brexit, tra bod barn y Democratiaid Rhyddfrydol wedi’i hollti.

Mae disgwyl i bleidiau sy’n cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd ddod ynghyd yn yr etholiad cyffredinol nesaf, tra bod nifer yn galw am gytundeb etholiadol rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Brexit.

Yn ôl yr arolwg, mae 25% yn dweud y byddan nhw’n pleidleisio mewn modd tactegol yn yr etholiad cyffredinol nesaf, gyda mwy na 20% wedi gwneud hynny yn 2017, yn ôl polau piniwn.

‘Amddifadu pleidleiswyr o ddewis go iawn’

Dywed y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol fod y system bleidleisio mewn perygl o “amddifadu pleidleiswyr o ddewis go iawn” gyda phleidiau’n “barod i chwarae’r gêm”.

“Mae pleidleiswyr, yn gwbl briodol, yn arllwys dŵr oer ar y syniad o ‘gytundebau Brexit’ yn yr etholiad nesaf,” meddai Willie Sullivan, uwch gyfarwyddwr y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.

“Mae’n nodwedd abswrd o system bleidleisio bwdwr San Steffan fod pleidiau’n cael eu hannog i gamu o’r neilltu i osgoi ‘hollti’r bleidlais’ – pan na fyddai hyn yn broblem o dan gynrychiolaeth gyfrannol.

“Dydy’r mathau hyn o dwyll gwrth-ddewis ddim yn cynnig ateb i’n gwleidyddiaeth ranedig, ond yn hytrach yn dangos system bleidleisio San Steffan fel y mater annemocrataidd yw e.

“Dydy pleidleiswyr ddim eisiau plaid Gadael yn erbyn Aros, na Chwith yn erbyn Dde: maen nhw eisiau dewis go iawn ac i gael eu cynrychioli’n deg.”