Mae’r heddlu wedi dechrau’r dasg o symud 39 o gyrff y cafwyd hyd iddyn nhw mewn trelar yng ngefn lori yn Essex.

Mae dyn 25 oed yn parhau i gael ei holi yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae ditectifs wedi cael rhagor o amser i holi gyrrwr y lori, y credir sy’n dod o Ogledd Iwerddon.

Cafodd ei arestio ar ôl i gyrff wyth menyw a 31 dyn gael eu darganfod ddydd Mercher (Hydref 23). Mae’n debyg eu bod o dras Tsieineaidd.

Nos Iau (Hydref 24) cafodd 11 o gyrff eu symud mewn ambiwlans preifat o borthladd Tilbury i Ysbyty Broomfield yn Chelmsford.

Fe fydd y cyrff eraill yn cael eu symud yn ddiweddarach.

Fe fydd archwiliadau post mortem yn cael eu cynnal ond mae’r heddlu wedi rhybuddio y gallai’r ymchwiliad gymryd peth amser.

Gwylnos

Mae’r heddlu yng Ngogledd Iwerddon wedi chwilio tri eiddo fel rhan  o’r ymchwiliad i’r lori, oedd yn dod o Iwerddon.

Roedd y trelar wedi cyrraedd Purfleet o Zeebrugge yng Ngwlad Belg tua 12.30yb ddydd Mercher, ac roedd rhan ffrynt y lori, sy’n cael ei adnabod fel y tractor, wedi dod o Ogledd Iwerddon gan deithio trwy Gaergybi, ddydd Sul.

Roedd y lori a’r trelar wedi gadael porthladd Purfleet toc wedi 1.05yb a chafodd swyddogion eu galw i Barc Diwydiannol Waterglade yn Grays tua 1.40yb.

Mae swyddogion yng Ngwlad Belg yn dweud ei fod yn annhebygol bod y 39 o bobol wedi mynd ar y trelar yn y wlad oherwydd gwiriadau diogelwch llym.

Cafodd gwylnos ei gynnal yn Llundain a Belffast i dalu teyrnged i’r dioddefwyr. Mae llysgenhadaeth Tsieina hefyd wedi anfon tîm i Grays i helpu gyda’r ymchwiliad.