Wrth i Aelodau Seneddol ystyried y posibiliad o etholiad cyffredinol, bydd arweinyddion Ewropeaidd yn cyfarfod yn ddiweddarach i drafod Brexit.

Hydref 31 yw dyddiad yr ymadawiad ar hyn o bryd, ond mae disgwyl i’r Undeb Ewropeaidd gynnig gohiriad – ac mi allai hynny bara am fisoedd.

Os bydd y gohiriad yn para tan Ionawr mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi dweud y bydd yn ceisio cynnal etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Mae’r Llywodraeth yn debygol o gynnal pleidlais ar y mater ddydd Llun, ac mae Boris Johnson wedi addo rhoi mwy o amser i Aelodau Seneddol ystyried ei ddêl Brexit os wnawn nhw gefnogi’r cynnig.

Cefnogaeth Llafur

Byddai angen i ddau draean o Dŷ’r Cyffredin bleidleisio o blaid y cynnig er mwyn tanio etholiad cyffredinol, ac mae hynny’n golygu bydd yn rhaid i lawer o feinciau Llafur ei gefnogi.

Mae Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, wedi dweud y bydd yn ystyried cynnig gohiriad yr Undeb Ewropeaidd cyn dod i benderfyniad.

Mae Jeremy Corbyn eisoes wedi dweud na fyddai’n cefnogi cynnal etholiad cyffredinol tan fod yr opsiwn o Brexit hab fargen wedi’i rhoi o’r neilltu.