Mae heddlu yng ngogledd Lloegr wedi cyhoeddi enw’r dyn a gafodd ei drywanu i farwolaeth mewn tref lan y môr, wedi i ddeg o bobol gael eu harestio mewn cysylltiad gyda’r llofruddiaeth.

Fe ddaeth swyddogion o hyd i Solomon Robinson, 26, o Scarborough yng ngogledd Swydd Efrog, gydag anafiadau difrifol y tu allan i Neuadd y Dref tua 2yb dydd Sul (Hydref 20).

Mae naw o ddynion, rhwng 18 a 28 oed, ynghyd â bachgen 16 oed, wedi cael eu dwyn i’r ddalfan mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Swydd Efrog yn cadarnhau fod dau ddyn wedi caell eu rhyddhau ar fechnïaeth, tra bod ditectifs wedi cael mwy o amser i holi yr wyth arall.