Mae Donald Tusk wedi dweud wrth Aelodau Seneddol fod cael estyniad arall ar Brexit yn bosib.

Daw hyn cyn dwy bleidlais hanfodol heddiw (Hydref 22), a fydd yn penderfynu p’un ai fydd Boris Johnson yn gallu mynd â’r Deyrnas Unedig allan o’r Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31.

Roedd arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, ynghyd â phennaeth yr Undeb Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, wedi rhoi pwysau ar Aelodau Seneddol gan honni na fydd yna estyniad arall.

Ond yn ôl Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, fe ddylai arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ganiatáu estyniad arall.

“Dylem fod yn barod am bob posibilrwydd,” meddai, “ond mae’n rhaid i un peth fod yn glir – fel ddywedais i wrth y Prif Weinidog dydd Sadwrn, fydd Brexit heb gytundeb byth yn ddewis i ni.”