Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, a Recep Tayyip Erdogan, arlywydd Twrci, wedi cynnal trafodaethau dros y ffôn ynghylch y sefyllfa yn Syria.

Mae Boris Johnson wedi mynegi pryder am weithgarwch milwrol Twrci yng ngogledd y wlad.

Mae disgwyl i’r ddau arweinydd gynnal trafodaethau pellach ag Angela Merkel, Canghellor yr Almaen, ac Emmanuel Macron, arlywydd Ffrainc.

Yn ystod y trafodaethau hynny, fe fydd mudo a brawychiaeth ar yr agenda.