Mae Jeremy Corbyn yn dweud na fydd y Blaid Lafur yn cael eu “twyllo” gan fargen Brexit Boris Johnson.

Daw ymateb arweinydd yr wrthblaid ar ôl i’r prif weinidog fod yn amlinellu’r fargen wrth i aelodau seneddol gyfarfod ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers 37 o flynyddoedd, gyda’r dyddiad ymadael, Hydref 31, ar y gorwel.

Mae Jeremy Corbyn yn dweud bod y fargen hon yn waeth na’r un flaenorol.

“Mae e wedi ail-drafod y Cytundeb Ymadael ac wedi ei wneud e’n waeth fyth,” meddai.

“Mae e wedi ail-drafod y Datganiad Gwleidyddol ac wedi gwneud hwnnw’n waeth.”

Mae’n dweud bod diffyg asesiad economaidd a chyngor cyfreithiol yn perthyn i’r fargen, a bod yna “addewidion gwag” o ran hawliau gweithwyr a’r amgylchedd.

“Does dim modd ymddiried yn y llywodraeth hon a chaiff y meinciau hyn mo’u twyllo,” meddai.

‘Swyddi yn y fantol’

Mae’n dweud bod y fargen yn peryglu “miloedd o swyddi Prydeinig” ac y byddai cefnogi’r fargen “yn bleidlais i dorri gweithgynhyrchu ar draws y wlad”.

Byddai hynny, meddai, yn arwain at geisio taro bargen fasnach â Donald Trump a’r Unol Daleithiau, “gan orfodi’r Deyrnas Unedig i wyro oddi wrth y safonau uchaf ac agor ein teuluoedd unwaith eto i gyw iâr clorin a chig eidion sydd wedi’i drin â hormonau”.