Mae Jean-Claude Juncker wedi dweud na fydd estyniad arall i Brexit, gan roi pwysau ar Aelodau Seneddol Prydain i gefnogi cytundeb Boris Johnson.

Galwodd Boris Johnson ar y Senedd “i ddod at ei gilydd a chwblhau Brexit” fore heddiw (dydd Iau, Hydref 17).

Mae Plaid y DUP wedi dweud na fydden nhw’n pleidleisio dros y cytundeb, tra bod Jean-Claude Juncker wedi dweud fod yn rhaid i’r cytundeb gael ei basio yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Rydyn ni wedi sicrhau cytundeb, a does yna ddim dadl dros estyniad arall – mae’n rhaid i hyn gael ei wneud nawr,” meddai.