Mae yna adroddiadau bod y grŵp, Extinction Rebellion, yn ceisio meddiannu rhai o orsafoedd trenau Llundain y bore yma (dydd Iau, Hydref 17).

Yn ôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain, mae’r ymgyrchwyr amgylcheddol yn cynnal protest mewn tair gorsaf yn nwyrain y ddinas ar hyn o bryd, sef Stratford, Canning Town a Shadwell.

Mae fideo sy’n cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos nifer o ymgyrchwyr yn ceisio dringo ar ben trên yng ngorsaf Canning Town, gan ddal arwydd sy’n dweud “Busnes fel arfer = marwolaeth”.

Mae’r fideo hefyd yn dangos teithwyr yn ymateb yn chwyrn i’r aflonyddwch, ac yn ceisio tynnu’r ymgyrchwyr oddi ar do’r trên.

Mae clip arall yn dangos dyn yn cael ei dynnu gerfydd ei droed oddi ar drên, cyn i grŵp o deithwyr weiddi arno.

Mae rhai pobol wedi cael eu harestio yn ystod protestiadau’r bore, meddai’r heddlu.