Adroddiadau fod plentyn, 12, wedi marw ar reilffordd ar Lannau Merswy

 

Llun: CC0

Mae plentyn wedi’i ladd ar gledrau yn Bootle, Glannau Merswy.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 7yh neithiwr (nos Lun, Hydref 14) i’r darn o reilffordd ger Bedford Road.

Mae papur newydd The Liverpool Echo yn cario stori sy’n honni fod plentyn 12 oed wedi marw, yn dilyn adroddiadau fod dau blentyn ar y traciau.

Mae llefaydd ar ran yr Heddlu Trafnidiaeth yn cadarnhau fod swyddogion wedi’u galw i Bootle neithiwr, ar ôl galwad yn dweud fod rhywun wedi’i anafu.

“Fe ddaeth parafeddygon hefyd,” meddai’r llefarydd wedyn. “Ond, yn anffodus, roedd person wedi marw yn y fan a’r lle.”

Dyw’r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel un amheus.

Gwasanaethau Brys

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones