Byddai Alban annibynnol yn “fagned i fuddsoddiadau rhyngwladol”, yn ōl Nicola Sturgeon.

Mae disgwyl i Brif Weinidog yr Alban ddweud wrth aelodau Plaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP, yn eu cynhadledd fod aros yn y farchnad sengl yn rhoi’r “gorau o’r ddau fyd” i’r Alban.

Mae disgwyl i Nicola Sturgeon hefyd gyhoeddi y bydd ei llywodraeth hi’n gwahardd costau gofal cymdeithasol dibreswyl gan helpu pobol sy’n derbyn gofal yn eu tai.

Daw ei haraith wrth i alwad am annibyniaeth i’r Alban gynyddu, gydag arolwg panel yn awgrymu fod 50% o bobol yr Alban yn cefnogi annibyniaeth.

Bydd Nicola Sturgeon yn dweud: “Mae’r Alban ddigon cyfoethog, ddigon cryf ac yn ddigon mawr i gymryd ein lle ymysg gwledydd balch, annibynnol eraill y byd.”