Roedd addewid i fynd i’r afael â throsedd yn brif thema yn yr Araith a draddodwyd gan y Frenhines yn San Steffan heddiw (dydd Llun, Hydref 14).

A Phrif Weinidog Prydain, Boris Johnson, bron torri ei fol eisiau etholiad cyffredinol, mae llawer yn ystyried y rhaglen ddeddfwriaethol fel dechrau ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr.

Yn ogystal â chyfeirio at yr amgylchedd a mewnfudo, roedd saith o’r 26 bil a gyhoeddwyd yn yr Araith yn ymwneud â chyfraith a threfn.

Roedd y rhain yn cynnwys deddfwriaeth i sicrhau bod troseddwyr difrifol yn cael eu cadw yn y carchar am gyfnod hirach; cyflwyno dedfrydau llymach i droseddwyr o dramor sy’n dychwelyd i wledydd Prydain; a sicrhau mwy o ddiogelwch i ddioddefwyr trais ddomestig.

Ymhlith y biliau eraill roedd addewid i gyflwyno rheoliadau amgylcheddol cryfach, mwy o arian i’r Gwasanaeth Iechyd, a chodi safonau byw trwy gynyddu’r Cyflog Byw Cenedlaethol i £10.50 yr awr.

Brexit ar frig yr agenda

Ar yr un pryd, mae gweinidogion yn paratoi i wthio bil trwy’r Senedd a fydd yn cymeradwyo unrhyw gytundeb Brexit a ddaw o ymdrechion Boris Johnson ym Mrwsel yr wythnos hon.

Mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31, ac mae arweinwyr Ewropeaidd yn cwrdd yn y dyddiau nesaf er mwyn trafod unrhyw gynigion am gytundeb.

Ar drothwy’r Araith, fe gyhoeddodd y Canghellor, Sajid Javid, ei fod yn bwriadu cynnal y Gyllideb gwta chwe diwrnod ar ôl diwrnod Brexit.

A’r Llywodraeth heb fwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin, dyw hi ddim yn sicr faint o’r hyn a gyhoeddwyd yn yr Araith heddiw fydd yn cyrraedd y llyfr cyfreithiau cyn etholiad.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn ddibynnol ar y gwrthbleidiau i sicrhau bod y rhaglen ddeddfwriaethol yn cael ei chymeradwyo. Mae disgwyl pleidlais ar y rhaglen ar ôl sawl diwrnod o ddadlau.

“Ffars” – yr ymateb i’r Araith

Mae’r Blaid Lafur wedi disgrifio ymgais y Llywodraeth i gynnal Araith y Frenhines cyn etholiad fel “stynt sinigaidd”.

Yn ôl llefarydd yr wrthblaid ar faterion cartref, Diane Abbott, mae’r Araith hon yn “ffars”.

“Mae’n rhestr ddymuniadau sydd heb ei phrisio a does dim bwriad na modd gan y Llywodraeth i’w darparu,” meddai. “Mae’n ddim mwy na darllediad gwleidyddol ar drothwy etholiad.”