Mynd i’r afael a throseddwyr treisgar a thramor fydd wrth wraidd cynlluniau Boris Johnson yn ystod Araith y Frenhines  – y cyntaf ers iddo ddod yn Brif Weinidog.

Y bwriad yw “adfer hyder” yn y system gyfiawnder, meddai. Mae’r pecyn o 22 o fesurau yn cynnwys deddfwriaeth i gadw troseddwyr treisgar dan glo am gyfnodau hirach, dedfrydau mwy llym i droseddwyr tramor sy’n dychwelyd i wledydd Prydain, a diogelu dioddefwyr camdriniaeth ddomestig.

Mae ei gynlluniau hefyd yn cynnwys mesurau i fuddsoddi rhagor yn y Gwasanaeth Iechyd (GIG), gwarchod yr amgylchedd a chodi safonau byw drwy gynyddu’r cyflog byw cenedlaethol i £10.50 yr awr.

Ar yr un pryd mae gweinidogion  yn paratoi i geisio sicrhau cytundeb Brexit er mwyn i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31.

Ond heb fwyafrif yn y Senedd, mae’n amheus faint o’r ddeddfwriaeth yn Araith y Frenhines fydd yn cael sêl bendith cyn etholiad cyffredinol.

Yn y cyfamser, fe gyhoeddodd y Canghellor Sajid Javid ei fod yn bwriadu cynnal Cyllideb chwe diwrnod yn unig ar ôl dyddiad Brexit.

Mae Llafur wedi beirniadu’r penderfyniad i gynnal Araith y Frenhines cyn etholiad cyffredinol gan ei alw’n “ffars”.