Mae’r SNP yn barod i wthio am bleidlais o ddiffyg hyder yn Boris Johson, ac mae Ian Blackford, arweinydd y blaid yn San Steffan, yn galw am gefnogaeth gan Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae’n herio Jeremy Corbyn a Jo Swinson, arweinyddion y ddwy blaid, i “gamu allan o’r tywod ac i fyny i’r gwaith” o symud y prif weinidog a Llywodraeth Prydain o’u swyddi.

Mae’n cyhuddo Boris Johnson o fod yn “fersiwn Eton-aidd ei hun o Donald Trump”, gan ddweud y byddai’r SNP yn pleidleisio yn erbyn Araith y Frenhines pe bai’n dod i bleidlais.

Ac mae hefyd yn dweud y byddai’r blaid yn cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder yn y prif weinidog pe bai’n rhaid.

Daw ei sylwadau wrth i’r blaid ymgynnull ar gyfer cynhadledd flynyddol yn Aberdeen.

“Ddylen ni ddim bod yn godde’r llywodraeth Dorïaidd hon sydd mewn grym o gwbl,” meddai.

“Rhaid i ni wthio’r llywodraeth Dorïaidd beryglus hon allan o’u swyddi a gadewch i fi ddweud wrthych chi, mae’r SNP yn barod i wneud hynny.

“Mae’r SNP wedi paratoi pleidlais o ddiffyg hyder.”

Apêl

“Gadewch i ni ddod ynghyd, cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder, gadewch i ni gael gwared ar Boris Johnson,” meddai wrth apelio’n uniongyrchol ar Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

“Jeremy, Jo. Mae’r cloc yn tician.

“Mae’r SNP yn barod i weithredu. Ydych chi?”

Mae’n cyhuddo’r Democratiaid Rhyddfrydol o ochri gyda’r Ceidwadwyr ers y llywodraeth glymblaid o dan arweinyddiaeth David Cameron, ac yn beirniadu Llafur am y ffrae sy’n bygwth hollti’r blaid tros Brexit.

Mae’n dweud mai gwaith yr wrthblaid yw “gwrthwynebu’r llywodraeth, nid ei gilydd”.