Mae tîm rygbi Japan wedi curo’r Alban o 28-21 er mwyn sicrhau lle yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed.

Roedd amheuon a fyddai’r gêm yn Yokohama yn cael ei chynnal o gwbl yn dilyn y teiffŵn, gyda’r Alban yn bygwth ceisio cyngor cyfreithiol pe bai’n cael ei chanslo.

Roedd angen buddugoliaeth o wyth pwynt ar yr Alban i gyrraedd rownd yr wyth olaf, ond roedd ymosod y tîm sy’n cynnal y gystadleuaeth yn rhy gryf o lawer.

Byddan nhw nawr yn wynebu De Affrica, wrth ailadrodd y gêm a ddaeth â buddugoliaeth hanesyddol arall iddyn nhw yn y gystadleuaeth bedair blynedd yn ôl.

Yn ystod y gêm, sgoriodd y prop Keita Inagaki gais a fydd yn sicr yn dwyn sylw’r beirniaid wrth ddewis cais gorau’r twrnament.

Dyma’r ail waith mewn tair cystadleuaeth i’r Alban fethu â chyrraedd yr wyth olaf.