Gall pobol “ymddiried” yn Boris Johnson a bod yn hyderus y bydd e’n sicrhau cytundeb Brexit, yn ôl Jacob Rees-Mogg.

Ond mae arweinydd Tŷ’r Cyffredin yn dweud y bydd rhaid cyfaddawdu er mwyn taro bargen, ac y gallai hynny gynnwys derbyn cytundeb tebyg i’r hyn yr oedd Theresa May, cyn-brif weinidog Prydain, yn ei gynnig ac y gwnaeth e ei wfftio.

“Dw i’n credu ei fod e’n rhywun y gall hyd yn oed sinigiaid pennaf Ewrop, hyd yn oed aelod o Blaid Brexit, ymddiried ynddo fe a bod yn hyderus ohono fe,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

Mae Boris Johnson wedi bod yn ymgynghori â’i Gabinet wrth i’r trafodaethau barhau ym Mrwsel dros y penwythnos.

Mae Nigel Dodds, arweinydd y DUP, yn dweud na fyddai dychwelyd at gynnig gwreiddiol Theresa May yn bodloni ei blaid.

Mae’r cynnig hwnnw’n golygu y byddai Gogledd Iwerddon yn aros yn rhannol o fewn yr undeb tollau o dan arweiniad Llywodraeth Prydain.

Dim bargen?

Yn y cyfamser, mae Priti Patel, yr Ysgrifennydd Cartref, yn dweud bod mesurau diogelwch yn eu lle rhag ofn na fydd modd taro bargen ar Brexit.

Ond mae hi’n wfftio’r awgrym fod y llywodraeth yn ofni mwy o ymosodiadau brawychol o du gweriniaethwyr Iwerddon.

Mae Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, yn dweud y byddai’r blaid yn penderfynu sut i ymateb ar ôl clywed manylion unrhyw fargen.

Ond mae’n rhybuddio aelodau seneddol i fod yn ofalus cyn cefnogi bargen bosib mewn refferendwm.