Mae bachgen 15 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drywanu bachgen ysgol i farwolaeth y tu allan i ganolfan siopa brysur yng ngolau dydd yn Llundain.

Cafodd plismyn eu galw i Stratford yn nwyrain y ddinas bnawn dydd Iau ychydig wedi 3 yn dilyn adroddiadau o drywanu.

Cafodd y bachgen a fu farw, a oedd hefyd yn 15 oed, ei enwi fel Baptista Adjei o Woolwich.

Dywed yr heddlu fod bachgen 15 oed wedi dod yn wirfoddol i orsaf heddlu yn nwyrain Llundain ddoe ac iddo gael ei arestio.

Mae’n dal yn y ddalfa.