Mae’r bragwr Carlsberg wedi cyhoeddi cynlluniau i gynhyrchu poteli cwrw papur sydd wedi’u creu â phren.

Mae’r cwmni Danaidd – sydd â’u pencadlys yn Copenhagen – wedi dadorchuddio dau brototeip hyd yma ac mae’n debyg bod modd eu hailgylchu’r poteli.

Rhan o ymdrechion y cwmni yw hyn i leihau allyriadau CO2 ei bragdai, ac i leihau ei ôl troed carbon gan 30% erbyn 2030.

Bydd y bragwr yn datblygu’r poteli ar y cyd â chwmni diodydd Coca-Cola, cynhyrchwyr fodca Absolut, a chwmni colur L’Oreal.