Fe fydd yr Ysgrifennydd Brexit Stephen Barclay yn cynnal trafodaethau allweddol gyda phrif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd Michel Barnier heddiw (dydd Gwener, Hydref 11).

Cynyddu’r mae’r gobeithion y bydd modd sicrhau cytundeb ymadael cyn diwedd y mis.

Daw’r cyfarfod ym Mrwsel yn dilyn trafodaethau rhwng y Prif Weinidog Boris Johnson a Taoiseach Iwerddon, Leo Varadkar -Dywedodd Leo Varadkar ei fod yn gallu gweld “llwybr posib” i ddod i gytundeb ynglŷn â’r “backstop” yng Ngogledd Iwerddon – prif faen tramgwydd y trafodaethau.

Wedi’r cyfarfod, dywedodd y ddau arweinydd y byddai “o fudd i bawb” i ddod i gytundeb a fyddai’n caniatáu i’r Deyrnas Gyfunol adael gyda chytundeb.

Fe allai cyfarfod Stephen Barclay arwain at drafodaethau dwys yn y dyddiau nesaf wrth i benaethiaid llywodraethau’r Undeb Ewropeaidd gynnal uwchgynhadledd ar Hydref 17 a 18.