Mae’r nifer o garcharorion sy’n lladd eu hunain – yn fwriadol ac ar ddamwain – wedi cynyddu, yn ôl yr ystadegau diweddaraf am garchardai yng Nghymru a Lloegr.

O fewn blwyddyn mae’r gyfradd yma wedi cynyddu gan 23% yn ôl yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth (PPO), tra bod marwolaethau dan glo yn gyffredinol wedi cynyddu gan 6%.

Problem sy’n cysylltu llawer o’r marwolaethau yma yw defnydd cyffuriau dan glo, ac mae adroddiad y PPO yn tynnu sylw at ba mor hawdd mae hi i garcharorion gael gafael ar gyffuriau.

Mae’r ddogfen yn sôn am farwolaeth lleidr a gynnodd ei hun ar ddamwain yn ei gell wrth iddo gymryd cyffuriau, ac am ddyn a laddodd ei hun oherwydd ei ddyledion cyffuriau.

Dod o hyd i ddiffygion

“Dro ar ôl tro mae’r PPO yn dod o hyd i’r un diffygion yn nyletswydd carchardai i’w carcharorion ledled Cymru a Lloegr,” meddai Deborah Coles, Cadeirydd elusen Inquest.

“Mae’r diffygion yma yn arwain at farwolaethau. Dydy uwch swyddogion ddim yn cael eu dal yn atebol, ac mae hynny’n golygu bod awgrymiadau – a all achub bywydau – yn diflannu i’r ether.”