Mae disgwyl i chwyddiant gyrraedd ei lefel uchaf ers tair blynedd heddiw. Fe fydd yn newyddion gwael i Lywodraeth San Steffan wrth iddyn nhw geisio delio â chostau cynyddol budd-daliadau, tra’n tanlinellu’r wasgfa ar gyflogau.

Bydd Mynegai Pris Defnyddwyr (CPI) ar gyfer mis Medi yn cael ei ddefnyddio i benderfynu cynydd tâl pensiynau fis Ebrill nesaf, gan roi pwysau ychwanegol ar y pwrs cyhoeddus – er y bydd yn beth ryddhad i bensiynwyr sydd wedi ei gweld hi’n anodd yn ddiweddar.

Mae’r Ddinas yn darogan fod y Mynegai Pris Defnyddwyr wedi codi 4.9%. Os yw hyn yn wir, fe fydd y pensiwn gwladol yn codi £5 yn ychwanegol i £107.13 yr wythnos i berson sengl, tra bod y pensiwn gwladol ar y cyd yn cynyddu £8 i £171.35.