Fe fydd prif weinidogion Prydain ac Iwerddon yn cynnal trafodaethau preifat yn Swydd Caer heddiw (dydd Iau, Hydref 10) ac yn defnyddio maes awyr Cymreig i fynd a dod.

Mae Boris Johnson yn gobeithio cael consesiynau ar y backstop Gwyddelig, y mesur sy’n rhwystro cael ffin galed yn ynys Iwerddon.

Ond gydag uwchgynhadledd yr Undeb Ewropeaidd yn dechrau ymhen wythnos, mae gobeithion Boris Johnson o sicrhau cytundeb yn edrych yn annhebygol.

Mae Leo Varadkar wedi dweud y bydd dod i gytundeb erbyn yr wythnos nesaf yn “anodd iawn”.

Er nad yw lleoliad y cyfarfod wedi ei ddatgelu ac nad yw’r wasg wedi cael gwahoddiad, mae gorsaf Wyddelig RTE yn adrodd mai yn Swydd Gaer y bydd yn cael ei gynnal, ac mai trwy faes awyr Penarlâg y bydd yr arlywydd yn teithio.