Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo Llywodraeth Iwerddon o drin yr iaith Wyddeleg a’r Gaeltacht yn “annheg”.

Daw wedi i’r Gweinidog Cyllid, Paschal Donhoe, gyhoeddi cyllid y Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ddydd Mawrth (Hydref 8).

Yn ôl y grŵp Conradh na Gaelige, mae’r ₤5m a roddwyd i’r celfyddydau ar gyfer 2020 yn “ddwbwl y ₤2.4m a roddwyd i’r iaith Wyddeleg, y Gaeltacht, yr Ynysoedd a’r Foras na Gaelige ynghyd”.

“Does ganddon ni ddim problem gyda’r cyllid ychwanegol i’r celfyddydau – rydym yn croesawu’r cynnydd,” meddai Niall Comer, Llywydd Conradh na Gaelige. “Ond fe ddylai fod tegwch i’r iaith Wyddeleg a’r Gaeltacht.”

Yn ôl Julian de Spáinn, Ysgrifennydd Cyffredinol y grŵp, mae patrwm wedi datblygu yn y blynyddoedd diwethaf o “ddiffyg cydbwysedd” yn yr arian mae’r iaith Wyddeleg a’r Gaeltacht yn ei dderbyn o gymharu â rhannau eraill o’r un adran.

Ychwanega fod y Llywodraeth wedi “colli cyfle” i greu swyddi newydd yn y Gaeltacht, a hynny ar drothwy cyfnod pan allai Brexit ddod â thrafferthion i’r rhanbarth.

“Rydym yn galw ar y Taoiseach, Leo Varadkar i weithredu yn yr amcangyfrifon diwygiedig a fydd yn cael eu cyhoeddi cyn y Nadolig,” meddai.