Mae Ginger Baker, drymiwr oedd yn fwyaf adnabyddus fel aelod o’r band Cream, wedi marw’n 80 oed.

Fe ddaeth cadarnhad o’r newyddion ar ei dudalen Twitter iddo farw’n dawel yn yr ysbyty yn dilyn salwch.

Roedd hefyd yn aelod o’r bandiau Blind Faith, Hawkwind a Fela Kuti, ac yn adnabyddus am chwarae sawl gwahanol genre o gerddoriaeth yn ystod ei yrfa – o roc i jazz.

Fel drymiwr jazz, fe chwaraeodd e â cherddorion fel Terry Lightfoot ac Acker Bilk.

Ond fel unigolyn, roedd e’n ffigwr dadleuol oedd yn aml yn ffraeo â cherddorion eraill, ar y llwyfan ac oddi arno.