Mae llofrudd wnaeth ladd dyn 52 oed â sgriwdreifar mewn canolfan siopa yn Newcastle wedi cael ei enwi wrth iddo droi’n 18 oed.

Doedd dim modd datgelu enw Ewan Ireland pan laddodd e Peter Duncan ar Awst 14.

Mae lle i gredu mai ymosodiad ar hap oedd e, a bod y cyfreithiwr yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir.

Fe godd y cyfreithiwr ei law i adael i’r llanc fynd heibio, ond roedd ffrwgwd rhyngddyn nhw a chafodd Peter Duncan ei drywanu yn ei galon.

Roed Ewan Ireland ar fechnïaeth am ei ran mewn ffrwgwd adeg yr ymosodiad.

Mae lle i gredu ei fod e wedi dwyn sgriwdreifar o siop Poundland ar ddiwrnod yr ymosodiad angheuol.

Plediodd e’n euog i lofruddio fis diwethaf.

Troseddau blaenorol

Yn ystod yr achos, clywodd Llys y Goron Newcastle fod gan Ewan Ireland 17 o gollfarnau am 31 o droseddau rhwng 2017 a 2019.

Mewn un o’r achosion, fe wnaeth e afael mewn cyllell yn ystod ffrae â’i deulu.

Ar achlysur arall, fe wnaeth e fygwth gyrrwr bws â llafn wrth yfed alcohol ar y cerbyd.

Bydd Ewan Ireland yn cael ei ddedfrydu ym mis Rhagfyr yn dilyn adroddiadau seiciatryddol, ac fe fydd yn aros yn y ddalfa yn y cyfamser.