Dywed y Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan fod ymdrechion gwledydd Prydain i dorri allyriadau tŷ gwydr wedi arafu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Fe fu gostyngiad o 2.5% yn y nwyon tŷ gwydr y llynedd, sy’n is na 3% y flwyddyn gynt a’r gostyngiad lleiaf ers 2012. 

Mae Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan yn rhybuddio fod angen buddsoddiad “sylweddol” os yw Prydain am gyrraedd targed cyfreithiol y wlad o gyrraedd net-zero emissions erbyn 2050.

Mae allyriadau tŷ gwydr wedi disgyn 42% ers 1990, sy’n fwy nag unrhyw economi fawr arall yn ôl Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan.