Mae dyn, 60, wedi cael ei gyhuddo o heintio tair dynes yn fwriadol â chlefyd HIV.

Mae John Nehemiah Rodney, sy’n hanu o ardal Toothill, Swindon, ar hyn o bryd yn cael ei gadw yng ngharchar Channings Wood.

Mae’n cael ei gyhuddo o dri achos o achosi niwed corfforol difrifol.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Swindon ddydd Mercher (Hydref 2).