Mae staff Thomas Cook wedi mynnu cael cefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth yn dilyn methiant y cwmni gwyliau.

Mae dwsinau o gyn-weithwyr wedi bod yn protestio tu allan i gynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion ac wedi bod yn annog gweinidogion i’w talu ar ôl iddyn nhw beidio â derbyn eu cyflogau ddydd Llun (Medi 30).

Roedd tua 9,000 o staff yn y Deyrnas Unedig wedi colli eu swyddi wythnos ddiwethaf ar ôl i’r busnes fethu a sicrhau cytundeb i’w achub.

Dywedodd yr ysgrifennydd busnes cysgodol, Rebecca Long Bailey, bod gan y Llywodraeth “gwestiynau i’w hateb. Dros y penwythnos daeth i’r amlwg bod adran Beis (Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiant) braidd wedi cwrdd â Thomas Cook dros y 12 mis diwethaf ac rydym eisiau gwybod pam fod hynny wedi ei ganiatáu pan oedd hi’n gwbl glir bod yna broblemau gyda Thomas Cook ers peth amser.”

Ychwanegodd bod angen gwybod pam fod llywodraeth yr Almaen wedi llwyddo i gamu i’r adwy i helpu gweithwyr Thomas Cook yn y wlad honno ond bod Llywodraeth Prydain “wedi llaesu dwylo i bob pwrpas.”