Llun: Gwefan Philips
Mae cwmni Philips wedi cyhoeddi eu bod yn cael gwared â 4,500 o swyddi ar ôl cyhoeddi bod ei helw wedi bron â hanneru  yn ystod yr haf.

Mae Philips, sy’n cyflogi 116,000 o staff ar hyd a lled y byd, gan gynnwys miloedd yn y DU, yn ceisio gwneud arbedion o £701.4 miliwn.

Dyw’r cwmni heb gyhoeddi eto lle fydd y swyddi’n mynd ond mae nhw eisoes wedi dweud y bydd 1,400 o weithwyr yn yr Iseldiroedd yn colli eu swyddi.

Mae elw’r cwmni wedi gostwng 76% i £322.7m, yn chwarter cyntaf 2011 wrth i gwsmeriaid wario llai ar nwyddau trydanol.

Dywedodd prif weithredwr y cwmni Frans van Houten bod y diswyddiadau yn anffodus ond yn hanfodol er mwyn gwneud y cwmni yn fwy cystadleuol.