Mae cyfranddaliadau BP wedi codi’n aruthrol heddiw, ar ôl i’r cwmni gyhoeddi eu bod nhw’n mynd i dderbyn $4 biliwn (£2.5 biliwn) gan un o’u partneriaid Americanaidd oedd yn gweithio ar ffynnon olew Gwlff Mecsico y llynedd.

Roedd gan gwmni Americanaidd Anadarko gyfranddaliad o 25% yn ffynnon olew Macondo, a ffrwydrodd fis Ebrill y llynedd, gan achosi un o’r trychinebau olew mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau.

Mae BP wedi dweud y bydd yr arian yn cael ei roi i gronfa, gwerth £12.6 biliwn, er mwyn talu iawndal i’r rhai a ddioddefodd yn sgil y digwyddiad.

Bydd cwmni Anadarko, o Tecsas, hefyd yn trosglwyddo’u hawl ar y ffynnon olew i BP.

Dywedodd y cwmni olew Prydeinig, sydd wedi gweld eu cyfranddaliadau yn codi 5% heddiw, nad oedd y setliad yn arwydd bod unrhyw un yn cyfaddef bai.

Mae’r cwmni eisoes wedi cyhoeddi setliad gyda chwmni MOEX, oedd yn berchen 10% o ffynnon Macondo, a gyda chwmni Weatherford, oedd yn darparu adnoddau drilio.

Dywedodd BP eu bod nhw hefyd yn pwyso ar gwmniau eraill, gan gynnwys y contractwyr Halliburton a Transocean, i “gyfrannu’n rhesymol”.

Yn y cyfamser mae’r prif weithredwr Bob Dudley wedi dweud bod “datblygiadau clir ymhlith y partion er mwyn camu ymlaen i gwrdd â’u dyletswyddau ac i helpu ariannu adferiad economaidd ac amgylcheddol y Gwlff.

Mae’n bryd i’r contractwyr, gan gynnwys Transocean a Halliburton, wneud yr un peth.”