Mae un o Aelodau Seneddol blaenllaw’r SNP yn dweud y gallai fod pleidlais o ddiffyg hyder yn llywodraeth Boris Johnson yr wythnos nesaf.

Yn dilyn trafodaethau gydag arweinwyr y gwrthbleidiau yn San Steffan, dywed Stewart Hosie mai’r unig ffordd o rwystro Boris Johnson rhag mynd â Phrydain allan o’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref.

“Does gennym ni ddim hyder y bydd y Prif Weinidog yn ufuddhau’r gyfraith ac yn ceisio’r estyniad y pleidleisiodd y Senedd drosto,” meddai.

Dywedodd ei fod o’r farn fod Llafur, er eu bod “braidd yn ddryslyd” ar y mater, yn ymddangos wedi ymrwymo i sicrhau estyniad Brexit.

Ar yr un pryd, mae’n cydnabod bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn gyndyn o gefnogi mesur a allai arwain at sefydlu Jeremy Corbyn fel prif weinidog.

“Pe bai enw arall yn cael ei gynnig a fyddai’n dderbyniol i bawb – rhywun fel Ken Clarke neu Dominic Grieve – yna mae’n amlwg y byddai hynny’n beth da i’w wneud,” meddai.

“Ond mae’n amlwg hefyd mai’r blaid ail-fwyaf (Llafur) ddylai gael y cyfle cyntaf i ffurfio’r llywodraeth honno.

“Byddai’n rhaid i’r cynllun cael cefnogaeth yr holl wrthbleidiau a’r rebeliaid Torïaidd er mwyn iddo lwyddo.

“Mae hefyd angen trefnu llywodraeth dros dro er mwyn ceisio estyniad i Erthygl 50.

“Os na fydd hynny wedi ei gytuno’n drylwyr ymlaen llaw, yna gallai arwain at gael etholiad cyffredinol ar delerau Boris Johnson a fyddai’n caniatáu iddo adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.”