Mae pencampwr paralympaidd sy’n ddall am fod yn cystadlu ar y rhaglen sglefrio Dancing On Ice.

Fe enillodd Libby Clegg ddwy fedel aur am wibio yn y Gemau Paralympaidd yn Rio yn 2016, a phum mis yn ôl fe roddodd enedigaeth i’w phlentyn cyntaf bum mis yn ôl.

Ymysg y cystadleuwyr eraill mae’r Cymro Ian ‘H’ Watkins o’r band Steps, y cyflwynydd teledu Michael Barrymore a chyn-asgellwr Everton, Kevin Kilbane.

“Daeth y cyfle yma i’m rhan a fedrwn ni mo’i wrthod,” meddai Libby Clegg.

“Rydw i wrth fy modd yn herio fy hun a chael profiadau newydd.”