Bydd yr Ysgrifennydd Brexit a phrif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, yn cyfarfod yn ddiweddarach i drafod yr ymadawiad.

Dod i gytundeb yw’r nod, ond mae Downing Street eisoes wedi cydnabod bod “rhwystrau sylweddol” yn atal hynny rhag digwydd.

Gogledd Iwerddon yw’r maen tramgwydd yn y trafodaethau yma, ac mae’r ddwy ochr yn anghytûn ynghylch sut i rwystro ffin galed â Gweriniaeth Iwerddon yn sgil Brexit.

Mae’r Prif Weinidog, Boris Johnson, yn mynnu bod y trafodaethau ag Ewrop eisoes wedi dwyn ffrwyth,  ac mae ei weinidog, Steve Barclay, yn gobeithio adeiladu ar hynny’n ddiweddarach.

Gogledd Iwerddon

Pe bai ffin galed yn codi rhwng Gogledd Iwerddon a’r weriniaeth yn dilyn Brexit, mae’n debygol y byddai’n rhaid codi isadeiledd ar y ffin, a’r pryder yw y gallai hynny danio hen densiynau.

Ateb Brwsel i hyn yw cadw Gogledd Iwerddon yn yr undeb dollau, ond mae unoliaethwyr wedi gwrthod y syniad achos byddai’n creu gwahaniaethau rhyngddyn nhw a gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae cydlynydd Brexit yr Undeb Ewropeaidd, Guy Verhofstadt, wedi dweud bod atebion y Deyrnas Unedig i’r broblem yn “annigonol”.