Mae cyfanswm o £208m wedi’i golli yn ystod hanner cyntaf 2019, wrth i bobol gael eu twyllo i drosglwyddo arian trwy’r banc i gyfrifon twyllwyr.

Mae cymdeithas UK Finance wedi rhyddhau’r ffigyrau, gan ddweud mai dm ond gwerth £39.3m o’r colledion y mae hi’n bosib ei ddychwelyd.

O fewn y cyfanswm o £208m, fe gafodd £147m ei golli o gyfrifon personol, a £61m o gyfrifon busnes.

Yn ystod hanner cyntaf 2018, roedd faint o arian a gafodd ei golli trwy drosglwyddiadau APP (authorised push payment) yn £148m.

Ond mae 57,549 achos unigol o APP wedi’u cofnodi yn ystod chwe mis cyntaf 2019 – sy’n gynnydd o 69% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.