Dan Wheldon Llun: Wikipedia
Mae’r gyrrwr rasio o Brydain, Dan Wheldon, wedi cael ei ladd mewn ras geir yn Las Vegas, yn ôl trefnwyr y digwyddiad.

Cafodd y gyrrwr 33 oed ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd wedi i’w gar fod yn un o 15 o geir oedd wedi taro yn erbyn eu gilydd yn ystod y ras Indy 300. Fe darodd ei gar yn erbyn un arall, a chael ei daflu i’r awyr  ddydd Sul.

Mae prif weithredwr IndyCar, Randy Bernard, wedi cadarnhau mewn cynhadledd i’r wasg a ddarlledwyd ar Sky Sports 4, fod “IndyCar yn drist iawn i gyhoeddi fod Dan Wheldon wedi marw yn sgil anafiadau difrifol.”

Cafodd y ras ei hatal wedi’r gwrthdrawiad a adawodd ceir yn fflamau a darnau o gerbydau ar draws y trac, wrth i griwiau drio symud y ceir.

Roedd disgwyl i Dan Wheldon, oedd wedi ennill yr Indianapolis 500 ddwywaith, i ennill y wobr o $5 miliwn ddoe petai wedi ennill y ras.

Ond dywedodd Randy Bernard ei bod hi’n bryd “troi ein meddyliau a’n gweddiau at ei deulu. Mae IndyCar wedi penderfynu atal y ras. Er cof am Dan Wheldon, mae’r gyrrwyr wedi penderfynu gwneud pum tro o gwmpas y cwrs.”

Roedd Dan Wheldon yn hanu o Swydd Buckingham, ond bellach yn byw yn Florida gyda’i wraig a’u dau mab. Roedd wedi ennill ras yr IndyCar 16 gwaith, ac fe ddaeth ar frig y gyfres yn 2005.