Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio dau blismon yn Sussex.

Cafodd y ddau swyddog eu taro gan gar Mercedes Benz mewn “gweithred fwriadol” yn gynnar fore Llun (Medi 23).

Roedd y ddau blismon – dyn a dynes – wedi bod yn gwneud gwiriadau cyffuriau arferol yn Littlehampton, Sussex tua 1.05yb pan gawson nhw a dyn arall eu taro gan gar.

Cafodd y ddau swyddog a’r dyn arall eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Roedd gyrrwr y Mercedes Benz, sy’n 20 oed, wedi rhedeg i ffwrdd wedi’r digwyddiad ond cafodd ei arestio gan swyddogion yn ddiweddarach ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Mae’r heddlu’n dal i geisio dod o hyd i ddau ddyn arall oedd yn teithio yn y car.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.