Mae disgwyl i ddyfarniad ynglŷn a chyfreithlondeb penderfyniad y Prif Weinidog, Boris Johnson i atal y Senedd am bump wythnos, gael ei gyhoeddi yfory.

Mae disgwyl i’r Goruchaf Lys gyhoeddi eu dyfarniad am 10.30yb ddydd Mawrth (Medi 24).

Roedd gwrthwynebwyr Boris Johnson yn dadlau ei fod yn ceisio atal y Senedd rhag craffu ar ei bolisi Brexit.

Dadl y Llywodraeth yw nad mater i’r llysoedd barn yw penderfynu ynglyn a gohirio’r Senedd.

Mae disgwyl i’r Senedd ail-ymgynull ar Hydref 14 ac mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31.