Y Dywysoges Anne
Mae tref Wootton Bassett wedi cael ei dynodi yn dref frenhinol mewn seremoni arbennig yno wedi ’r Dwysoges Anne gyflwyno Llythyrau Patant ar ran y frenhines.

Mae’r dref wedi cael ei anrhydeddu i nodi arferiad y trigolion yno o sefyl yn dawel ar ochr y stryd i ddangos parch pan oedd cyrff milwyr laddwyd dramor yn cael eu cludo drwy’r dref.

Dyma’r tro cyntaf i dref dderbyn teitl brenhinol ers 1909.

Roedd y Prif Weinidog David Cameron a’r Gweinidog Amddiffyn newydd Philip Hammond yn y gwasanaeth.

Dyma ddyletswydd swyddogol cyntaf Mr Hammond ers ei benodi i olynu Liam Fox yn dilyn ymddiswyddiad hwnnw dydd Gwener.

Dywedodd y Dwysoges Anne ei bod yn fraint ganddi ymuno efo’r Frenhines i dalu diolch am ymateb parchus trigolion y dref i sefyllfa drist.