Mae Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, wedi achub swydd ei ddirprwy Tom Watson yn ystod cynhadledd y blaid yn Brighton.

Roedd disgwyl i bleidlais gael ei chynnal i benderfynu a fyddai’r swydd yn cael ei diddymu.

Ond chafodd y bleidlais mo’i chynnal ar ôl i Jeremy Corbyn ymyrryd.

Yn hytrach, fe fydd y swydd yn cael ei hadolygu er mwyn penderfynu sut gall atebolrwydd gael ei gryfhau o fewn y blaid.

‘Dim rhybudd’

Cyn y bleidlais, dywedodd Tom Watson nad oedd y gynhadledd wedi cael rhybudd y byddai pleidlais yn cael ei chynnal.

“Ces i neges destun mewn bwyty Tsieinaidd ym Manceinion yn dweud eu bod nhw’n fy niddymu fi,” meddai.

Ymhlith y rhai oedd yn beirniadu’r sawl oedd yn ceisio diddymu’r rôl roedd Ed Miliband, cyn-arweinydd y blaid.

Roedd ymgais i ddiddymu’r rôl ddydd Gwener ac er bod 17 o blaid a 10 yn erbyn, roedd y bleidlais yn annilys am nad oedd wedi denu dau draean o’r bleidlais.