William Hague
Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi gwrthod honniadau bod y cyn Weinidog Amddiffyn Liam Fox a’i ffrind Adam Werritty yn ceisio creu polisi tramor ar wahan i un swyddogol y llywodraeth.

“Nid yw un ymgynghorydd neu ddim-ymgynghorydd, beth bynnag ei fod i weinidog, yn gallu cynnal polisi cwbl wahanol i weddill y llywodraeth” meddai.

Wrth gael ei holi gan Andrew Marr ar y BBC dywedodd Mr Hague bod Dr Fox yn hytrach wedi cydweithredu efo’r Swyddfa Dramor ar faterion polisi.

Ychwanegodd Mr Hague y bydd adroddiad Ysgrifennydd y Cabinet Gus O’Donnell ar ymddygiad Liam Fox yn cael ei gyhoeddi “yn ystod y dyddiau nesaf”.

Ymddiswyddodd Dr Fox dydd Gwener diwethaf yn dilyn beirniadaeth am ei berthynas waith efo’i ffrind Adam Werritty. Cyfarfu Mr Werritty â Dr Fox 22 o weithiau yn y Weinyddiaeth Amddiffyn gan ymuno efo fo ar 18 o deithiau swyddogol dramor.

Roedd yn bresennol pan oedd Dr Fox yn cyfarfod aelodau o’r gwasanaethau milwrol, diplomatwyr a ymgymerwyr amddiffyn.

Yn y cyfamser mae’r  heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ystyried holi Adam Werritty,  ynglyn â honniadau o dwyll.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dinas Llundain bod “swyddogion o’r  adran trosedd economaidd yn ystyried y mater er mwyn penderfynu os yw’n briodol i gynnal ymchwiliad”.

Mae’r aelod seneddol Llafur, John Mann wedi gofyn i’r heddlu ymchwilio i honniadau bod Mr Werritty wedi twyllo wrth ddefnyddio cardiau busnes  pan roedd yn honni ei fod yn gynghorydd i Mr Fox.

Dywedir bod Mr Werritty wedi derbyn arian gan nifer o gefnogwyr ariannog yn ystod y cyfnod yma.