Mae’r Goruchaf Lys yn clywed gan lywodraethau Cymru a’r Alban heddiw (dydd Iau, Medi 19) cyn y mae disgwyl iddo benderfynu a oedd Boris Johnson yn iawn i gau senedd Westminster am bump wythnos.

Mae’r Goruchaf Lys yn gwrando ar apêl gan ddau sy’n honni fod Prif Weinidog Prydain wedi gweithredu’n anghyfreithlono – un her yn dod o Loegr a’r llall o’r Alban.

Bydd y grandawiad yn dod i ben brynhawn heddiw, ond nid yw’n glir eto pryd fydd dyfarniad yn cael ei gyhoeddi.