Mae gan Boris Johnson 12 diwrnod i amlinellu ei gynlluniau Brexit – neu “mae pethau ar ben” – yn ôl Prif Weinidog y Ffindir.

Daw rhybudd Antti Rinne yn dilyn trafodaethau rhyngddo ag Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, ym Mharis.

Mae Ffindir ar hyn o bryd yn dal llywyddiaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd ac yn galw ar wledydd Prydain i gyflwyno cynigion ar gyfer cytundeb Brexit newydd cyn diwedd mis Medi.

Mae Boris Johnson eisoes wedi dweud y byddai’n bosib cael cytundeb cyn yr uwchgynhadledd rhwng arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 17.

Fodd bynnag, mae’n mynnu y bydd Brexit yn digwydd ar Hydref 31 – cytundeb ai peidio.

Mae Jacob Rees-Mogg, aelod blaenllaw o’i gabinet, hefyd wedi dweud bod ganddo hyder yng ngallu’r Prif Weinidog i sicrhau cytundeb.

“Dw i’n hyderus iawn, iawn y gallai’r Prif Weinidog sicrhau cytundeb hollol wahanol os daw un cyn Hydref 31,” meddai Arweinydd Tŷ’r Cyffredin