Mae’r cyn-Brif Weinidog David Cameron wedi datgelu ei fod yn difaru cynnal refferendwm ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn 2016.

Mewn cyfweliad gyda Tom Bradby ar ITV cyn iddo gyhoeddi ei hunangofiant, dywed David Cameron ei fod yn “ymddiheuro’n daer” am yr hyn sydd wedi digwydd ers y refferendwm.

Pan ofynnwyd iddo a oedd canlyniad y refferendwm yn dal i achosi poen meddwl iddo, atebodd: “Wrth gwrs ei fod o, roedd hwn yn benderfyniad mawr i’n gwlad ni a dw i’n credu ein bod ni wedi dewis y trywydd anghywir.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Dw i’n difaru rhai o’r penderfyniadau wnaethom ni yn ystod yr ymgyrch. Dwi’n meddwl falle fod yno achos i ddweud y gallai’r amseru wedi bod yn wahanol.”