Y brotest y tu allan i Eglwys Gadeiriol St Paul
Mae cannoedd o brotestwyr yn parhau i fod y tu allan i Eglwys Gadeiriol St Paul yn Llundain yn dilyn y brotest fyd-eang ddoe yn erbyn trachwant corfforaethol honnedig a thoriadau gan lywodraethau oherwydd y sefyllfa economaidd.

Heidiodd miloedd o brotestwyr i’r ardal ger yr Eglwys Gadeiriol er mwyn gorymdeithio a cheisio meddianu y Gyfnewidfa Stoc gerllaw.

Dywedodd Canon Ganghellor yr Eglwys, y Parchedig Giles Fraser ei fod yn fodlon gadael i’r protestwyr aros er mwyn iddyn nhw gael “ymarfer eu hawl i brotestio yn heddychlon”

“Roedd yna rês o blismyn y bore yma yn ceisio gwarchod yr eglwys” meddai “ond ro’n i’n credu nad oedd angen hynny felly gofynnais iddyn nhw adael ac ers hynny mae hi wedi bod yn brotest heddychlon hyd y gwela’i.”

Yn gynharach bu peth trafferth wrth i’r heddlu geisio clirio’r protestwyr oddi ar risiau’r eglwys. Dywed Heddlu’r Metropolitan bod 5 o bobl wedi cael eu harestio hyd yn hyn yn ystod y brotest.

Cafodd y dydd o brotest ym mhedwar ban byd ei drefnu  gan gefnogwyr mudiad ‘Occupy Wall Street’ yn yr Unol Daleithau a’r ‘Indignants’ yn Sbaen.

Mae’r trefnwyr yn dweud ar eu gwefan eu bod eisiau datgan “mewn un llais bod gwleidyddion a’r elite cyllidol y mae nhw’n eu gwasanaethu, mai ni y bobl fydd yn penderfynu ein dyfodol. Nid nwyddau ydym ni yn nwylo gwleidyddion”.

Dywed Maer Rhufain y bydd clirio ar ôl y brotest yno yn costio hyd at un miliwn euro. Roedd degau o filoedd o brotestwyr yn gorymdeithio yn heddychlon trwy’r brifddinad pan ddechreuodd nifer o bobl oedd wedi cuddio’u wynebu achosi trafferth a thrais.

Rhwgwyd palmantydd a ffyrdd ac fe daflwyd rwbel at yr heddlu ac adeiladau. Cafodd ffenestri eu malu ac fe faluriwyd cerflun o’r Forwyn Fair wrth i brotestwyr heidio i mewn i un eglwys.

Draw yn Efrog Newydd cafodd 80 o bobl eu arestio ac aethpwyd a dau blismon i’r ysbyty wedi eu anafu ar ôl trafferth yn Times Square.

Bu trafferthion mewn protestiadau cysylltiedig hefyd mewn dinasoedd eraill yn yr UDA ac yng Nghanada a Mecsico.