Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi rhoi mwy o bwysau ar Boris Johnson i amlinellu ei gynigion ar gyfer cytundeb Brexit newydd yn ystod cyfarfod yn Lwcsembwrg heddiw (dydd Llun, Medi 16).

Yn ôl y Comisiwn Ewropeaidd, maen nhw’n dal i aros am gynigion amgen i’r trefniant yng Ngogledd Iwerddon – y backstop – a oedd yn rhan o gytundeb Theresa May ac sy’n ceisio osgoi ffin galed ag Iwerddon.

Yn ôl Jean-Claude Juncker, bu’r cyfarfod rhyngddo â Boris Johnson yn “gyfeillgar”, ond ychwanegodd fod angen i’r trafodaethau ynghylch Brexit gynyddu “ar gyflymder”.

Roedd yr Ysgrifennydd Brexit, Steve Barclay, a phrif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, hefyd yn bresennol yn y cyfarfod.

‘Bydd Brexit ar Hydref 31’ – Boris Johnson

Mae Stryd Downing wedi disgrifio’r cyfarfod fel un “adeiladol”, ac yn cydnabod yr angen am fwy o drafodaethau rhwng y ddwy ochr, a hynny yn “ddyddiol”.

Ond mae Boris Johnson eto wedi pwysleisio na fydd yn gofyn am estyniad i Brexit, er bod deddf a basiwyd yn San Steffan yr wythnos ddiwethaf yn atal gwledydd Prydain rhag gadael heb gytundeb ar Hydref 31.

“Fe ailgadarnhaodd y Prif Weinidog ei ymrwymiad i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith a’i fwriad pendant i sicrhau cytundeb – sydd ddim yn cynnwys y backstop – a fydd yn derbyn cefnogaeth aelodau o’r Senedd,” meddai ei lefarydd.

“Fe bwysleisiodd y Prif Weinidog hefyd na fydd yn cyflwyno cais am estyniad ac y bydd yn arwain gwledydd Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31.

“Fe gytunodd yr arweinwyr fod angen i drafodaethau ddwysáu ac y dylai cyfarfodydd gael eu cynnal yn ddyddiol.”